1852, May 1 - Jones, Dan - Letter to John Davis

1 May 1852 letter from Dan Jones to John Davis:

Anwyl Frawd Davies,

Derbyniais lythyr cysurlawn yn diweddar oddiwrth fy mrawd Edward yn yr hwn y danghosa ysbryd Sant a dymuniad hiraethus am ymfudo i Zion a thaer erfynia arnaf ei gynorthwyo os gallaf. Ysgrifenais yn ol am iddo ofyn i chwi os bydd genych ar law arian dyledus i mi; ac os bydd byddwch mor ddaer a'u cyflwyno iddo ef a bydd ei ddanghosy ef cystal genyf fi ar arian.

Y mae mor dylawd arnaf am arian yma fel na bum yn berthenog ar gymaint ag un bunt ers mwy na blwyddyn! Eithr diolchaf am ddigoned o ymborth a heddwch ni ei fwynhau.

Dibynaf y gwnewch chwi y Br. Phillips ar Saint ffyddlon yna eich goreu droswyf yn hyn yn ol eich caredigrwydd cysefin. Diolchwch droswyf fi am gwraig a Margarett Jones am ei hanrheg dyddorol o bar o esgidiau a hosannau bach i'r baban y daeth i law _____. Yr oedd mawr eu hangen, canys ni cheir lledr yma am bris yn y byd, ac nid tebyg y ceir ychwaith hyd oni wneir peth yma; clywais fod peth wedi ei wneyd yn y Llyn Halen. [Diolch yn fawr i chwi am y llythyron a anfonasoch ers llawer dydd a'r llyfrau; nid oes dim yn fwy yn fy awydd na chlywed hynt yr efengyl yn nghymry hoff a da iawn fyddau genyf glywed yn amlach. Y Duw doeth a'ch bindithio chwi oll a chariad a doethineb ac a llwyddiant bythol yw'm taer weddi beunydd. Y mae fy ngwraig a'm plant yn mwynhau iechyd da (diolch am hynny), ac yn ymuno â mi i gofio attoch chwi a'ch teulu a'r Br. Phillips a'u deulu; Pugh hynaws, ynghyd â'u holl gydnabod, yn enwedig â'r Saint oll; buan y cwrddwn chwi oll yma fel bwenith wedi ei gasglu i ysgubor cyn y del y drygfyd.]

A allwch chwi roi hynt fy mrawd John i mi; ni chlywais oddiwrtho er pan ymadewais oddiyno oddieithr un llythyr oddiwrth ei ferch Sarah oddeutu dwy flwyd oed. Dyweda Edward ei fod ar ei ffordd yma; gobeithiaf ei fod.

Braidd y dysgwyliaf eich gweled chwi eich _____ (trioedd?) Cyn y dychwelaf yna; etto bydd hynny yn ol meddwl a chyngor yr hwn a'n piau ni oll.

[Gobeithiaf glywed llawer o newyddion oddiwrthych cyn y cychwynaf i'r deau yr Hydref i chwilio allan yr Indiaid Cymreig. Wedi hynny talaf y newyddion yn ol debygaf! Clywais eich bod yn cyhoeddi yr "Athrawiaeth a chyfamodau" ynghyd a Llyfr Mormon yn Gymraeg. O ___ (mor?) Dda fyddai genyf eu gweled, eu hawdwr a'ch cymysgaethr a doethineb ______ (gogyfer?) a'r gwaith pwysig nesaf fi.]

Rhaid terfynu yn awr gwelwch gyda ffarwelio am einyd, ebe eich Brawd, etc. D Jones

None

Immigrants:

Jones, Dan

Comments:

No comments.